top of page
workforce futures welsh.png

Er gwaethaf rhai heriau, mae gennym gyfle unigryw i drawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu gofal ar gyfer y boblogaeth sy’n newid ym Mhowys.

Y gweithlu yw’r ffactor pwysicaf yn ansawdd y gofal a ddarparwn ac felly mae’n rhan annatod o gyflawni’r hyn a nodir yn Strategaeth Iechyd a Gofal Powys.

 

Mae system iechyd a gofal Powys wedi gosod strategaeth gyffrous ar gyfer dyfodol ei weithlu, sy’n canolbwyntio ar ofal o ansawdd uchel, gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a mwy o weithio mewn partneriaeth.

 

Rydym yn ystyried ein gweithlu yn y cyd-destun ehangach , ac mae hyn yn cynnwys pobl sy’n gweithio ar draws y sector preifat, annibynnol a’r trydydd sector. Rydym hefyd yn cydnabod bod gwirfoddolwyr a gofalwyr yn chwarae rhan bwysig fel rhan o’n tîm.

Am fwy o wybodaeth edrychwch ar y ddogfennau isod.

Fframwaith Strategol Dyfodol y Gweithlu

Fframwaith Strategol Dyfodol y Gweithlu: CRYNODEB

Cynllun ar tudalen

Academi Iechyd a Gofal Powys

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer academi iechyd a gofal newydd ar gyfer y sir.

Bydd ei gampws cyntaf yn Neuadd Basil Webb, ar safle Ysbyty Bronllys, yn agor yn yr Hydref, ac mae cynlluniau i ddatblygu cyfleusterau tebyg ar draws y sir dros y ddwy flynedd nesaf.

Bydd Academi Iechyd a Gofal Powys yn cynnig cyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb a    digidol drwy bedair ysgol - Ysgol Ymchwil, Datblygu ac Arloesi, Ysgol Arweinyddiaeth, Ysgol Gwirfoddolwyr a Gofalwyr, ac Ysgol Addysg a Hyfforddiant Proffesiynol a Chlinigol - i weithwyr yn y sector iechyd a gofal, rhai sy'n chwilio am yrfa yn y sector a gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl sy'n cefnogi'r sector.

Oedolion ifanc sy'n cael cynnig lleoliadau gwaith gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor Sir a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys fydd y grwp cyntaf o ddysgwyr, a hynny trwy Gynllun Kickstart sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU.

bottom of page