Ysgol Addysg a Hyfforddiant Proffesiynol a Chlinigol
Bydd hyn yn adeiladu ar enw da astudiaeth gymhwysol ar draws meysydd arbenigol iechyd a gofal cymdeithasol, gan roi cyfle i ddysgwyr fagu sgiliau ac arbenigedd proffesiynol a chlinigol mewn amgylcheddau efelychu modern tra’n astudio ochr yn ochr â thimoedd a swyddogion proffesiynol aml-ddisgyblaethol eraill, gan felly gwneud cefnogaeth gan gymheiriaid a chydweithio’n rhan annatod o’r broses.
Cyfleoedd i aros ym Mhowys a hyfforddi
Nyrsio Oedolion (Llwybr Dysgu Gwasgare-dig i Fyfyrwyr ym Mhowys)
Mae'r cwrs Nyrsio Oedolion BN llwybr Dysgu Gwasgaredig ar gael i fyfyrwyr sy'n byw ym Mhowys yn unig.
​
Noder os gwelwch yn dda: Mae'r cwrs hwn yn dechrau ym Medi 2023.
​
Mae nyrsys oedolion yn asesu, gwneud diagnosis, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal sy'n cefnogi adferiad y claf neu eu gallu i fyw cystal â phosib gyda'u cyflwr. Bydd y rhaglen newydd gyffrous hon yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi raddio fel nyrs oedolion gofrestredig, a byddwch yn ymgymryd â lleoliadau ymarfer mewn lleoliadau cymunedol ac ysbytai gyda'n sefydliadau partner ym Mhowys, ac yn cael profiadau mewn amrywiaeth o feysydd sy'n gysylltiedig â gofal iechyd oedolion. Mae llawer iawn o gyfleoedd gyrfa nyrsio ac maent yn bodoli mewn meysydd yn cynnwys gofal sylfaenol, neu ofal eilaidd, e.e. adran frys, meysydd meddygol a llawfeddygol arbenigol, neu ofal dwys. Cefnogir dysgu nyrsys cofrestredig trwy gydol eu gyrfaoedd trwy breceptoriaeth yn y lle cyntaf, sy'n cynnig y gefnogaeth strwythuredig sydd ei hangen i drosglwyddo eich gwybodaeth yn llwyddiannus i ymarfer bob dydd, a thrwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.
​
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i'r wefan Prifysgol Bangor
Cyflwyniad i ofal cymdeithasol
Mae’r rhaglen tri diwrnod ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru a bydd yn cael ei chynnal ar-lein.
​
Mae diwrnodau’r rhaglen unwaith yr wythnos am gyfnod o dair wythnos gyda llyfr gwaith i’w gwblhau.
​
Mae’r amseroedd rhwng 10am-2:30pm.
​
Bydd yr hyfforddiant yn cwmpasu’r hanfodion sydd eu hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol fel cyfathrebu, diogelu ac arferion gwaith. Pan fyddwch yn dechrau gweithio yn y sector, byddwch hefyd yn derbyn cymorth a hyfforddiant ychwanegol gan eich cyflogwr.
​
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle, ewch i'r wefan Gofalwn Cymru
Cysylltiadau
Gwneud i bob cyswllt gfrif
Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (GBCG) yn agwedd ar newid ymddygiad sy'n defnyddio'r miliynau o ryngweithiadau o ddydd i ddydd rhwng sefydliadau ac unigolion â phobl eraill i'w helpu i wneud newidiadau cadarnhaol i'w hiechyd a lles corfforol a meddyliol.
​
Mae GBCG yn galluogi'r gwaith oportiwnistaidd o gyflwyno gwybodaeth gyson a chryno am ffyrdd iachach o fyw ac yn galluogi unigolion i gael sgwrs am eu hiechyd mewn sefydliadau a phoblogaethau yn unol â maint y broblem.
​
Am wybodaeth bellach ar yr academi a’i gwaith, cysylltwch â ni. Ebost: powys.healthcareandsocialcareacademy@wales.nhs.uk