Blaenoriaethau
Strategaeth Iechyd a Gofal Powys sy’n sbarduno gwaith y Bwrdd. Mae’r strategaeth yn manylu ar flaenoriaethau trawsnewid iechyd a gofal ym Mhowys hyd 2027. Helpu pobl Powys i ‘Ddechrau’n Dda’, ‘Byw’n Dda’ a ‘Heneiddio’n Dda’ yw’r nod, trwy ganolbwyntio ar lesiant, cymorth a chefnogaeth gynnar, gan fynd i’r afael â’r pedair prif her iechyd a chynnig gofal mwy di-fwlch.
Mae canolbwyntio ar lesiant yn golygu sicrhau bod pobl yn mwynhau iechdy da, hapusrwydd a ffyniant. Mae’n cynnwys iechyd meddwl da, lefel uchel o foddhad menw bywyd, ac ymdeimlad o bwrpas.
Mae darparu cymorth a chefnogaeth gynnar mewn modd integredig yn hanfodol trwy gydol oed er mwyn gwella llesiant, atal clefydau, galluogi pobl i fyw bywydau llawn a rheoli iechyd gwael yn effeithiol.
Mae canser, clefyd cardiofasgwlaidd, clefydau’r ysgyfaint ac anhwylderau iechyd meddwl oll yn gyfranwyr mawr at iechyd gwael, felly rydym wedi cynnwyd yr achosion hyn yn brif ffocws.
Gyda disgwyliadau sy’n cynyddu a system iechyd sy’n gymhleth, mae angen i ni ddod yn fwy hyblyg wrth i ni ymateb i bobl, a chyflenwi gofal cwbl ddi-fwlch i sicrhau gwell deilliannau.
I gyflawni’r blaenoriaethau hyn, mae’r Bwrdd hefyd yn gweithio i gyflenwi’r canlynol:
Rydym yn gweithio i helpu i ddiffinio cynllun integredig i’r gweithlu i’r dyfodol, ac i fapio gofynion data ar draws yr asiantaethau sy’n aelodau o’r Bwrdd i helpu i ddarganfod pa bynciau sy’n allweddol a pha weithgareddau sy’n flaenoriaeth.
Rhaglen uchelgeisiol o waith a fyddai’n golygu bod amgylcheddau arloesol yn cael eu datblygu fel rhan o fodel gofal newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhowys.
Gwneud gwell defnydd o dechnoleg ddigidol i ddarparu gwell gwasanaethau i bobl. Cwmpaswyd rhaglen Digidol yn Gyntaf, a honno’n cynnwys iechyd digidol a thechnoleg gynorthwyol i fyw.
Cydweithio er budd gorau'r preswylwyr, gan ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig a di-dor. Rhennir adeiladau ac adnoddau at sawl pwrpas, gan sawl sefydliad.