top of page

Gwella’r Daith Ganser ym Mhowys

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys yn cydweithio â Chefnogaeth Canser Macmillan ar raglen o’r enw “Gwella’r Daith Canser ym Mhowys”.

 

Nod y cynllun yw sicrhau bod pawb sy’n byw gyda chanser ym Mhowys yn cael y cymorth a’r gefnogaeth iawn i fyw eu bywyd mor llawn ag y gallan nhw. Mae’n gwneud hyn trwy ddarparu’r gefnogaeth ymarferol, gorfforol, emosiynol, ysbrydol a chymdeithasol sydd eu hangen arnynt fel y gallan nhw gyflawni’r hyn sydd o’r bwys mwyaf iddynt.

 

Canser yw un o’r Pedwar Afiechyd Pwysicaf o fewn Strategaeth Iechyd a Gofal Powys. Mae cwta fil o bobl yn cael diagnosis o ganser ym Mhowys bob blwyddyn. Gyda gwelliannau mewn triniaeth a chyffuriau canser bellach mae pobl yn byw yn hirach ac yn iachach gyda chanser. O ganlyniad i hyn mae’n bwysig bod eu hanghenion iechyd a lles yn cael eu diwallu.

ICJ edited.png

 

Bwriad y rhaglen hon yw datblygu dull gofal sy’n debyg i’r hyn a ddatblygwyd

yn Glasgow. Bydd y model yn cynnig sgwrs bersonol a chefnogol i bawb

sy’n cael diagnosis o ganser (o’r enw asesiad anghenion cyfannol)

gyda gweithiwr allweddol. Bydd y gweithiwr yn gallu trafod a chefnogi

eu holl anghenion a chynnig cyngor, gwybodaeth a’u hatgyfeirio mewn

ffordd gydlynus. Ar ben hyn, bydd y rhaglen yn arfarnu asesiad anghenion

electronig holistaidd a fydd yn ein galluogi i nodi a mynd i’r afael ag

anghenion amrywiol y cleifion o fewn eu cynllun gofal unigol.   

Gallai’r gefnogaeth a gynigir gynnwys gwybodaeth ar y canlynol:

 

  • Budd-daliadau lles

  • Dychwelyd i’r gwaith

  • Gwneud ewyllys

  • Pecynnau gofal cymdeithasol ac asesiadau gofalwyr

  • Mynediad at therapi galwedigaethol neu wasanaethau iechyd lymphedema

  • Sut i ddweud wrth aelodau’r teulu neu blant am ddiagnosis neu driniaeth

  • Dod i ben â blinder, lludded neu reoli poen

  • Cyngor ar faeth

  • Y mathau gorau o ymarfer

  • Grwpiau cefnogol lleol

 

Os nad ydych wedi cael cynnig/cwblhau asesiad anghenion holistaidd a hoffech wneud hynny, cysyllttwch naill ai â PAVO neu Ymddiriedolaeth Bracken.  Os ydych chi'n gofalu am anwyliaid mae croeso i chi gysylltu â Credu sy'n cefnogi gofalwyr di-dâl yn y sir.  Gweler ein tab Dolenni Defnyddiol am fanylion cyswllt a gweler ein taflen ‘Cymorth yn agosach i adref’  /  ein poster yma.

Mae profiadau pobl sy’n byw gyda chanser wrth wraidd llunio’r prosiect hwn. Os hoffech chi rannu’ch stori - un ai fel rhywun sy’n byw gyda chanser neu aelod y teulu, cysylltwch â ni. Mae croeso i chi e-bostio tîm y prosiect: ICJPowys@powys.gov.uk 

Ein dogfennau Gwella Taith Ganser

Wrth i'r rhaglen fynd yn ei blaen byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a dogfennau allweddol i'r dudalen i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.  Beth am gael cipolwg ar y canlynol:

 

DATGANIADAU I'R WASG

 

 

PODLEDIAD

Mae'r ICJ yn ymddangos mewn pennod o bodlediadau Cancercast Cymru, sy'n

dangos enghreifftiau o welliannau arloesol i wasanaethau canser ledled Cymru.

 

Ar gael yn Saesneg yn unig.

Dyma Dylan Owen, Pennaeth Comisiynu yng Nghyngor Cyngor Sir Powys hyd at fis Medi 2022, sy’n esbonio sut y daeth y rhaglen i fodolaeth a beth y bydd yn ei golygu i bobl sy’n byw gyda chanser ym Mhowys.  Mae Tîm Budd-daliadau Lles y cyngor a'r tîm CYMORTH (Asssist, sef Adult Social Services Information and Support team) yn allweddol i'r gefnogaeth sy’n cael ei chynnig fel rhan o'r rhaglen.

  1. O fathodynnau glas i chymorth wrth wneus ceisiadau am PIP, mae'r Tîm Budd-daliadau Lles yn cefnogi trigolion Powys sy'n byw gyda chanser i gael mynediad i'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.   

  2. Nod y tîm CYMORTH yw symleiddio a sicrhau bod gofal a chefnogaeth yn cael eu cydlynu pan fydd rhywun ei angen, boed hynny’n ofal wrth ryddhau claf o'r ysbyty, yn helpu gartref gydag anghenion byw bob dydd neu gael addasiadau yn y cartref neu fynediad at drafnidiaeth gymunedol. Cliciwch ar y dolenni yn y Tab Dolenni Defnyddiol (isod) am fwy o fanylion.

 

Am fwy o fideos gan weithwyr proffesiynol a phobl sy’n byw â chanser, ewch i’r sianel YouTube!

big four - welsh.png

Cadeirydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Gareth Ratcliffe yn cyfarch partneriaid cyflawni a noddwr ICJ ar gyfer y rhaglen.  Left i'r dde -  Marion Baker (Ymddiriedolaeth Bracken), Sharon Healey (PAVO) a Becky Evans (Credu) a Dr Ruth Corbally, Arweinydd Canser Meddygon Teulu Macmillan a'r Arweinydd Clinigol ar gyfer Canser ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Noddwr ICJ. Roedd Tim o’r Trallwng wedi gwneud araith yn nigwyddiad Y Trallwng.  Gallwch ei ddarllen isod.

Podcast thumbnail.JPG

Dolenni defnyddiol

  • Twitter

@MacmillanCymru

  • Facebook

Macmillan Cymru Wales

  • Instagram

@Macmillanwales

Am mwy o fideos fel hyn, ewch i'n sianel YouTube!

bottom of page