
Academi Iechyd a Gofal Powys

Mae’r Academi’n rhan o fenter Cymru gyfan i wella cyfleoedd i ddatblygu, derbyn addysg a hyfforddiant ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein gwaith ni’n canolbwyntio’n benodol ar y gweithlu ym Mhowys.
​
Yr uchelgais yw y bydd yn helpu’r sector i fod ymysg y prif ddewisiadau i’r rhai sy’n chwilio am waith neu’n dychwelyd i’r farchnad swyddi yn y sir, ac iddo fod yn enghraifft o ddarparwr addysg broffesiynol a chlinigol p’un ai’n wyneb yn wyneb neu’n rhithiol.
​
Bydd yr Academi hefyd yn helpu i ddatblygu arweinwyr a’r gweithlu, gan gynnwys gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl, sy’n cynnig dulliau arloesol o ofal i’n dinasyddion mewn ffordd amserol ac effeithiol.
Bydd hyn yn adeiladu ar enw da astudiaeth gymhwysol ar draws meysydd arbenigol iechyd a gofal cymdeithasol, gan roi cyfle i ddysgwyr fagu sgiliau ac arbenigedd proffesiynol a chlinigol mewn amgylcheddau efelychu modern tra’n astudio ochr yn ochr â thimoedd a swyddogion proffesiynol aml-ddisgyblaethol eraill, gan felly gwneud cefnogaeth gan gymheiriaid a chydweithio’n rhan annatod o’r broses.
Safleoedd Academi
Bydd gofodau ffisegol yr Academi yn seiliedig ar fodel 'prif ganolfan a lloerennau'.
​
Bydd yna brif safleoedd, neu hybiau, yn Ysbyty Bronllys, ac ar Gampws Lles arfaethedig Gogledd Powys, yng nghanol y Drenewydd. A safleoedd lloeren, sy’n gysylltiedig â’r hybiau, nhw mewn lleoliadau eraill ar draws Powys, gan ddibynnu ar ble mae’r angen.

Am wybodaeth bellach ar yr academi a’i gwaith, cysylltwchâ ni. E-bost: powys.healthandcareacademy@wales.nhs.uk