Aelodaeth
At ddibenion Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu Cymru’n saith rhanbarth sy’n seiliedig ar ôl troed Byrddau Iechyd Cymru. Mae Powys yn unigryw oherwydd bod ôl troed y cyngor lleol yr un fath ag eiddo Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, felly mae Powys yn cael ei ystyried yn rhanbarth ynddo’i hun.
Mae hyn yn cynnig buddion a heriau. Mae’r buddion yn cynnwys y ffaith fod lefel y trafod a’r consensws lawer yn symlach; yr her yw bod nifer y bobl y gellir eu defnyddio yn is, ac yn aml, yr un bobl sy’n gwasanaethu ar nifer o fforymau partneriaeth.
Er bod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn manylu ar gyfeiriad y gwaith ar y cyd ar iechyd a gofal ym Mhowys ac mae’n llunio’r prif benderfyniadau am y gwaith hwnnw. Mae ganddo hefyd is-bartneriaethau sy’n cynnwys grŵp llawer ehangach o bobl a sefydliadau yn y gwaith i gyflenwi amcanion a blaenoriaethau’r Bwrdd.

Aelodau'r Partneriaeth (o fis Tachwedd 2019):
Ali Bulman - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Carl Cooper - Prif Weithredwr PAVO (Is-Cadeirydd)
Carol Shillabeer - Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd (Cadeirydd)
Cyng Rachel Powell - Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant
Cyng Rosemarie Harris - Arweinydd Cyngor Sir Powys
Cyng Myfanwy Alexander - Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion
Dylan Owen - Pennaeth Comisynu
Jamie Marchant - Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Sylfaenol, Cymunedol a Meddwl
Jean Carter (Gofalwr) - Cynrychiolydd gofalwyr
John Buchan - Cynrychiolydd ar gyfer pobl ag anghenion am ofal a chefnogaeth
Julie Gillbanks - Gweithredu i Blant
Maggie Simms – Cynrychiolydd ar gyfer pobl ag anghenion am ofal a chefnogaeth
Melanie Davies - Cynrychiolydd Bwrdd Iechyd Powys
Melanie Minty - Rhwydwaith Fforwm Gofal Cymru
Nina Davies - Pennaeth Tai a Datblygiad Cymunedol
Owen Judd (Gofalwr) - Cynrychiolydd gofalwyr
Stuart Bourne - Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd