top of page

Safle hwb Bronllys

Crëwyd y safle hwb Academi cyntaf yn Ysbyty Bronllys, sydd hefyd yn gartref i bencadlys un o brif bartneriaid Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys, sef Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

​Mae'r campws yn cynnwys Basil Webb Hall, sydd wedi'i throsi’n ganolfan hyfforddi gyda thair prif ystafell, y gellir eu defnyddio ar gyfer addysgu a chynadleddau wyneb yn wyneb, neu ei defnyddio i gysylltu'n ddigidol â safleoedd eraill o fewn y sir.

Yn ogystal â hyn, ceir gofod dysgu yn yr awyr agored, ar ffurf amffitheatr fechan, y tu ôl i'r neuadd, a byngalo sydd wedi'i drosi'n ofod byw lle gall staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn lleoliadau cymunedol gael help gyda’u hyfforddiant.

Gweinidog yn agor campws cyntaf Academi Iechyd a Gofal Powys

Heddiw (dydd Iau 13 Hydref), agorwyd campws cyntaf Academi Iechyd a Gofal Powys, yn Ysbyty Cymunedol Bronllys yn swyddogol gan Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Bydd y cyfleuster newydd gwerth £1.6 miliwn yn gymorth i wella mynediad at hyfforddiant iechyd a gofal cymdeithasol yn y sir gan annog mwy o bobl i gael gyrfa yn y sector.

Meddai Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Roeddwn yn falch o weld y gwaith arloesol sy'n digwydd ym Mhowys i wella sgiliau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol y sir, diolch i'n cymorth drwy'r gronfa gofal integredig.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd y dysgwyr y gwrddais â nhw heddiw yn datblygu yn eu gyrfaoedd o ofalu am bobl pan fydd eu hangen mwyaf."

Logo Academi Iechyd, Gofal a Gofal Cymdeithasol Powys

Am wybodaeth bellach ar yr academi a’i gwaith, cysylltwchâ ni.
E-bost: powys.healthcareandsocialcareacademy@wales.nhs.uk

bottom of page