top of page
about

YNGLYN Â’R BARTNERIAETH

Daw Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (RPB) Powys ag amrediad o gynrychiolwyr gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd, gan gynnwys y cyngor lleol, y bwrdd iechyd, y trydydd sector a phobl allweddol eraill gan gynnwys dinasyddion, i sicrhau bod pobl yn gweithio gyda’i gilydd yn well i wella iechyd a llesiant ym Mhowys.

Mae a wnelo hyn â rhoi pobl a’r hyn sy’n bwysig iddynt wrth wraidd y gwasanaethau iechyd a gofal. Mae’r RPB yn goruchwylio cyflenwi hyn ym Mhowys, proses sy’n digwydd trwy ei raglenni: Dechrau’n Dda, Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda, yn ogystal â pheth gwaith arall sy’n pontio pob un o’r rhain.

Manylir ar flaenoriaethau’r Bwrdd yng Nghynllun Ardal Powys - y Strategaeth Iechyd a Gofal. Ymhlith cyfrifoldebau’r Bwrdd mae gwneud yn siŵr bod adnoddau ar gael, bod pobl yn aros yn annibynnol cyhyd ag y gallant, a bod y gwasanaethau iechyd a gofal yn gwbl ddi-fwlch.

I helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd, mae gan yr RPB gyfrifoldeb am ddyrannu cronfeydd Cronfa Integreiddio 
Rhanbarthol (CIR) Llywodraeth Cymru, y mae’n defnyddio’r rhain i gynorthwyo’r prif brosiectau.

our documens
Older women exercising

EIN BLAENORIAETHAU

CANOLBWYNTIO AR LLESIANT

 

Trwy ganolbwyntio ar lesiant ry’n ni’n gwneud yn siwr bod pobl yn mwynhau iechyd da, hapusrwydd a ffyniant. Mae hyn yn cynnwys iechyd meddwl da a synnwyr eglur o bwrpas. 

MYND I’R AFAEL Â’R Y 'PEDWAR MAWR'

Fel rhai o’r clefydau sy’n achosi iechyd gwael amlaf, mae canser, clefydau cardiofasgwlaidd, clefydau’r ysgyfaint ac anhwylderau iechyd meddwl yn ffocws pwysig.

hands.jpg
CYMORTH A CHEFNOGAETH GYNNAR

 

Mae darparu cymorth a chefnogaeth gynnar mewn ffordd integredig yn hanfodol trwy gydol ein bywyd i wella llesiant, atal clefydau a galluogi pobl i fyw bywydau cyflawn.

GOFAL INTEGREDIG

 

Gan fod disgwyliadau’n cynyddu a’n system iechyd yn gymhleth, mae angen i ni ddod yn fwy hyblyg wrth ymateb i bobl. Gallwn wneud hyn yn well pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd ac yn cysylltu gwasanaethau gofal â’i gilydd.

PRIF DDOGFENNAU

Y Cynllun Ardal yw cynllun a rennir Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys dros y bum mlynedd nesaf. Mae’n adeiladu ar yr hyn sy’n digwydd eisoes yn y sir ac yn gosod allan sut ydym ni’n mynd i’r afael â’r bylchau gyda’n gilydd.

 

Rydym ni’n defnyddio ein Hadroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad a Dadansoddiad Anghenion Poblogaeth, a siarad ag amrywiaeth mor eang ag sy’n bosibl o bobl i ddynodi sut, wrth weithio ynghyd, y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl ym Mhowys.

 

Bob pum mlynedd, rydym ni’n adolygu ein cynlluniau, blaenoriaethau, data a pholisi sy’n ymddangos.  Ynghyd â Chynllun yr Ardal, rydym ni hefyd wedi adolygu’r Strategaeth Iechyd a Gofal, Powys Iach Ofalgar (2017-2027) a’r modd y byddwn yn cyflenwi’r uchelgais ddeng mlynedd hon.

 

Mae’r bartneriaeth hefyd yn cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n edrych ar y cynnydd a wneir bob blwyddyn. Edrychwch ar rai o’r prif ddogfennau er mwyn dysgu mwy am waith y RPB.

A young girl blowing bubbles
contact

CYSYLLTWCH Â NI

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol  Comisiynu 

Neuadd y Sir

Llandrindod

LD1 5LG

​Cymru

Deyrnas Unedig

E-bost: prpb@powys.gov.uk

© 2022 Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys

bottom of page