
Gyrfaoedd mewn Gofal Iechyd a Chymdeithasol
Eich llwybr i iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhowys
Ym mha faes ydych chi eisiau gweithio?
Diweddarwyd gwybodaeth ddiwethaf: 30.06.2023
Pa lwybr ydych chi eisiau ei ddilyn?
Diweddarwyd gwybodaeth ddiwethaf: 30.06.2023
Beth yw gofal iechyd a chymdeithasol?
Gallai darparu gofal iechyd neu gymdeithasol olygu y byddech yn gweithio gyda phobl o bob oed, o fabanod i oedolion hŷn ac mae'n aml yn cael ei ystyried fel un o angenrheidiau mwyaf cymdeithas.
Mae gofal iechyd yn delio â'r diagnosis a’r presgripsiwn o driniaeth ar gyfer salwch corfforol a meddyliol, tra bod gofal cymdeithasol yn cefnogi pobl sy'n defnyddio cyfleusterau gofal neu sydd eisiau byw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Nod y ddau yw hybu iechyd, annibyniaeth a lles.
Swyddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Mae gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnig llawer o lwybrau gyrfa gwahanol, gyda dros 350 o wahanol swyddi ar gael.
Mae hyn yn cynnwys y rhai mwyaf amlwg fel meddygaeth, nyrsio, therapïau, gofal oedolion a gofal plant a gwaith cymdeithasol. Ond mae angen cogyddion, glanhawyr, porthorion, staff cynnal a chadw, cyfrifwyr, technegwyr TG a gweinyddwyr hefyd.
Gallwch ddarganfod rhagor drwy ymweld â Dregyrfa: https://careersville.heiw.wales/cy/
Gallwch hefyd wylio fideo YouTube am Dregyrfa yma:
Cyfleoedd i bobl ifanc
Gall dysgwyr ôl-16 mewn dwy ysgol ym Mhowys - Ysgol Llanfyllin ac Ysgol Uwchradd Crughywel - sy'n astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Lefel 3 gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi a gynhelir gan yr Academi Iechyd a Gofal. Ac rydym yn gobeithio cynnig y cyfle hwn i fwy o ysgolion yn y dyfodol.
Mae cyfleoedd hefyd i gael profiad drwy leoliadau gwaith gyda:
-
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: powys.workforcegeneralenquiries@wales.nhs.uk
-
Cyngor Sir Powys (gofal cymdeithasol): workexperience@powys.gov.uk
Os nad ydych chi am aros yn yr ysgol nac am fynd i’r coleg ar ôl eich pen blwydd yn 16, efallai yr hoffech chi ddilyn prentisiaeth yn lle hynny?
Mae gwirfoddoli hefyd yn gallu bod yn ffordd wych o gael profiad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd drwy:
-
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: victoria.sharpe@wales.nhs.uk
-
Canolfan Gwirfoddoli Powys: melissa.townsend@pavo.org.uk
Gofal cymdeithasol: ‘Y swydd orau yn y byd’
Yn ôl Sharon Frewin, sy’n gweithio fel Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Cyngor Sir Powys, gweithio mewn gofal cymdeithasol “yw’r swydd orau yn y byd”.
Dechreuodd hi ar ei gyrfa yn y sector fel swyddog cefnogi cymunedol, ar ôl gwirfoddoli ac yna hyfforddi fel nyrs anableddau dysgu, ac mae hi wedi cael ei dyrchafu i un o brif swyddi gofal cymdeithasol yn y wlad.
Chwiliwch am ‘swyddi Powys’ ac yna ‘gofal’
Cyngor gyrfaoedd a swyddi
Os hoffech ragor o gyngor, siaradwch â’r cynghorydd gyrfaoedd yn eich ysgol, neu sgwrsiwch un i un dros y ffôn neu ar-lein: https://gyrfacymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni
-
Mae Gyrfa Cymru’n cynnig cyngor am swyddi yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol: https://gyrfacymru.llyw.cymru/gwybodaeth-am-swyddi/pynciau/iechyd-a-gofal-cymdeithasol
-
Cyngor ar ddewis y pwnc neu gwrs cywir: https://gyrfacymru.llyw.cymru/cyrsiau-a-hyfforddiant/sut-i-ddewis-y-pwnc-neu-gwrs-cywir
Mae sgiliau Cymraeg hefyd yn rhai pwysig i’w cael ar gyfer y gweithle ac mae yna alw mawr amdanynt gan gyflogwyr iechyd a gofal cymdeithasol!
Swyddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol:
-
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/swyddi-cyfredol/
-
Cyngor Sir Powys: https://cy.powys.gov.uk/swyddigwag
-
Gofalwn Cymru: https://gofalwn.cymru/swyddi/?location=Powys&job_types=&vacancy-job-type-custom=&filter-submit=Update+Results
Pam gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol?
Taith Katelyn
Ymunodd Katelyn Falvey â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fel Ffisiotherapydd ac mae bellach wedi datblygu i fod yn Bennaeth Dylunio Sefydliadol a Thrawsnewid y Gweithlu.
Esboniodd Katelyn bod llwyth o gyfleoedd i ddatblygu yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhowys os ydych chi’n berson digon brwdfrydig:
Gellir gweld trafodaeth lawn Katelyn gyda Rhys Griffiths o'r Brifysgol Agored yma ar Sianel Vimeo Newyddion Busnes Cymru: https://vimeo.com/696002535
Diwrnod ym mywyd...
gweithiwr cymdeithasol
nyrs
gweithiwr cymorth ailalluogi a gofal yn y cartref
deietegydd

Am wybodaeth bellach ar yr academi a’i gwaith, cysylltwchâ ni.
E-bost: powys.healthcareandsocialcareacademy@wales.nhs.uk