

Ysgol Arweinyddiaeth
Bydd hyn yn helpu i ddatblygu arweinwyr ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhowys trwy fuddsoddi mewn arweinyddiaeth systemau ac ar y cyd trwy Academi Dysgu Dwys Arwain Trawsnewid Digidol Cymru.
Arwain Trawsnewidiad Digidol

Mae'r Academi Dysgu Dwys ym Mhrifysgol De Cymru wedi'i datblygu mewn partneriaeth â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys ac mae'n cael ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru.
​
Nod yr Academi yw dod â chymuned o arweinwyr â ffocws digidol ac egin arweinwyr o bob rhan o iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector ynghyd.
​
Traws-gydweithredu cyfleoedd ymchwil, gwybodaeth a dysgu, datblygu dulliau atal newydd ac astudiaethau doethuriaeth yn seiliedig ar ymchwil i gynnal ymchwil manwl ar gyfer trosi ymchwil yn ganlyniadau atal.
​
Mae PDC yn rhan o rwydwaith o Academïau Dysgu Dwys, hybiau ar gyfer datblygu sgiliau ac arbenigedd, ar gyfer rhannu gwybodaeth a throsi ymchwil yn ganlyniadau.
​
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle, ewch i'r wefan Prifysgol De Cymru

Porth Arweinyddiaeth Gwella

Mae Gwella yn borth arweinyddiaeth am ddim i holl staff GIG Cymru.
​
Mae'r adnodd digidol dwyieithog ar gael drwy unrhyw ddyfais symudol ac mae'n darparu mynediad at ystod eang o adnoddau arwain a rheoli tosturiol a guradwyd o Gronfa’r Brenin, y Brifysgol Agored a chydweithwyr ar draws cenhedloedd eraill y DU.
​
Dolen i'r Porth Arweinyddiaeth Gwella
Rhaglen Datblygu Rheolwr Tîm
Mae'r Sefydliad Gofal Cyhoeddus (IPC), ym Mhrifysgol Oxford Brookes, wedi cael ei gomisiynu i gyflwyno rhaglen ddatblygu ar gyfer rheolwyr timoedd gofal cymdeithasol led led Cymru.
Mae'r rhaglen wedi cael ei chynllunio'n benodol i helpu rheolwyr rheng flaen ac uwch ymarferwyr mewn lleoliadau gofal cymdeithasol i wella rheoli ansawdd arfer o fewn gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.
​
Carfan Hyfforddwyr Busnes Powys
Ar hyn o bryd, mae gan Gyngor Sir Powys tua 20 o hyfforddwyr personol mewnol a hyfforddwyr cyswllt sy'n gweithio fel bwrdd seinio i alluogi unigolion i gyflawni eu nodau a goresgyn rhwystrau personol. Mae'r holl hyfforddwyr hyn yn gymwys ac yn gweithredu o fewn Carfan Hyfforddwyr Busnes Powys.
Gall hyfforddwr helpu pobl i ddod yn fwy effeithiol yn eu rolau, i gael eu dyrchafu, i ddod yn arweinwyr gwell neu i gyflawni nodau gyrfa.
Nid yw hyfforddwr o anghenraid yn rhywun o'ch adran ac mae'n bosibl nad oes ganddo/ganddi unrhyw ddealltwriaeth o'ch maes gwaith. Y mae, fodd bynnag, yn arbenigwr mewn gofyn y cwestiynau iawn i'ch galluogi i ddarganfod drosoch eich hunain pa gamau mae angen i chi eu cymryd er mwyn llwyddo.
​
​
Ebost: leadership@powys.gov.uk
Rhaglen Graddedigion Rheoli Cyffredinol GIG Cymru
Bydd y cynllun hwn yn rhoi i chi’r cam cyntaf mewn i reoli’r GIG Cymru - cyfle gyrfa unigryw i wneud gwahaniaeth go iawn.
​
Dros ddwy flynedd y cynllun, byddwch yn:
​
-
Ymgymryd â sawl lleoliad, gan weithio fel rhan o dimau amlddisgyblaethol
-
Cwblhau gradd Meistr wedi'i hariannu'n llawn.
-
Derbyn pecyn o ddysgu proffesiynol a fydd yn helpu i wneud y mwyaf o eich datblygiad
-
Golwg 'hofrennydd' ar draws yr holl wasanaethau
-
Cyflog blynyddol o £27,319 ynghyd â nifer o fuddion.
-
Cefnogaeth helaeth gan bobl sy'n arweiniol, a fydd yn eich annog!
Byddwch yn gweithio gyda phobl o bob proffesiwn ac yn meithrin eich sgiliau arwain a rheoli i sicrhau newid o ansawdd uchel a gwelliannau i wasanaethau cleifion.
​
Rhaglen Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan

Mae Rhaglen Cymru Gyfan ar gyfer Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus yn gyfle unigryw i chi wella’ch sgiliau a datblygu’ch gyrfa.
​
Bydd yn agor y drws i rolau a phrosiectau yn y dyfodol a fydd yn gyfle i chi ddatblygu ac ymestyn eich hun er mwyn cyflawni’ch potensial. Bydd yr agwedd newydd ‘Cymru gyfan’ yn gyfle unigryw i chi weithio ar draws ffiniau sefydliadau.
​
Gwneud i bob cyswllt gfrif

Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (GBCG) yn agwedd ar newid ymddygiad sy'n defnyddio'r miliynau o ryngweithiadau o ddydd i ddydd rhwng sefydliadau ac unigolion â phobl eraill i'w helpu i wneud newidiadau cadarnhaol i'w hiechyd a lles corfforol a meddyliol.
​
Mae GBCG yn galluogi'r gwaith oportiwnistaidd o gyflwyno gwybodaeth gyson a chryno am ffyrdd iachach o fyw ac yn galluogi unigolion i gael sgwrs am eu hiechyd mewn sefydliadau a phoblogaethau yn unol â maint y broblem.
​

Am wybodaeth bellach ar yr academi a’i gwaith, cysylltwch â ni. Ebost: powys.healthcareandsocialcareacademy@wales.nhs.uk