Mae rhaglen Llesiant Gogledd Powys yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i wella iechyd a llesiant ar draws gogledd Powys. Mae Cynlluniau ar y gweill i ddatblygu cyfleuster cyfloes yn y Drenewydd. Bydd hwn wedi’i gysylltu â nifer o hybiau llesiant cymunedol i gynnig rhagor o wasanaethau’n lleol a dod â’r dechnoleg a’r hyfforddiant diweddaraf i ganolbarth Cymru.
​
Byddai’r campws llesiant aml-asiantaeth yn cynnwys addysg gynradd, iechyd, gofal cymdeithasol a llety â chymorth. Gwrandawyd ar farn trigolion lleol a byddant eu safbwyntiau’n cael eu defnyddio i ddatblygu’r cynlluniau fel bod modd i ni sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pobl leol a’r hyn sydd bwysicaf yn ein cymunedau.
​
Nod Rhaglen Llesiant Gogledd Cymru yw canolbwyntio ar lesiant; hyrwyddo cymorth a chefnogaeth gynnar trwy allu darparu technoleg sy’n eich helpu i barhau i fyw gartref; mynd i’r afael â phrif achosion iechyd a llesiant gwael; a sicrhau bod gofal di-fwlch ar gael sy’n cynnwys timau cymdogaethol a chymunedau yn gweithio ynghyd, s’n golygu gwasanaeth mwy di-fwlch pan fydd angen hynny.
​
Am fwy o wybodaeth ewch i www.powyswellbeing.wales