top of page
live well welsh.png

(Iechyd Meddwl)

Wrth i anghenion ein poblogaeth newid, mae mwy o bobl yn byw gyda chanser, iechyd meddwl, clefyd anadlol, clefyd cylchrediad y gwaed ac anhwylderau cyhyrysgerbydol. Mae angen sicrhau bod pobl yn gallu ‘Byw’n Dda’ trwy fod yn iach ac yn egnïol a thrwy gael gafael ar gymorth a chefnogaeth gynnar. Gall byw'n dda yn ystod oedolaeth greu buddion enfawr yn heniant.

Mae Partneriaeth Byw'n Dda (iechyd meddwl) yr RPB yn gyfrifol am fwrw ymlaen â gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gryfhau a thrawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl ym Mhowys fel y nodir yn Strategaeth Iechyd a Gofal Powys. Dyma rai o'i brosiectau:

Gwasanaeth Triniaeth Cartref Dementia

iStock-941321384.jpg

Mae'r prosiect yn adeiladu ar fodel a ddatblygwyd yng ngogledd Powys, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â gwledigrwydd a'r anawsterau wrth recriwtio clinigwyr arbenigol (yn enwedig ar gyfer swyddi rhan-amser). Mae’r prosiect yn cryfhau gwasanaethau dementia trwy ddatblygu dull ‘tîm o amgylch yr unigolyn’, gan ddefnyddio sgiliau staff lleol a chynnig cyfleoedd i glinigwyr gyfuno eu profiad dementia â meysydd ymarfer arbenigol.

Darllen a Chofio

reading.jpg

Mae’r prosiect hwn wedi sefydlu grwpiau ‘Darllen i Gofio’ a gweithgareddau cymorth eraill sy’n gysylltiedig â dementia ar draws 10 llyfrgell ym Mhowys, gan ddefnyddio adnoddau unigryw a chysylltiadau lleol y Gwasanaeth Llyfrgelloedd. Ar lefel lleol mae'r gwahanol lyfrgelloedd, grwpiau darllen a gwirfoddolwyr yn adeiladu cysylltiadau ac yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau dementia cymunedol eraill, ysgolion a chartrefi gofal i gysylltu gweithgareddau a bod o fudd i fwy o bobl.

bottom of page