top of page

Rhannu stori Tim.

Mae Tim Platt yn byw â chanser.  Mae wedi cael dros 100 sesiwn cemotherapi ac fe rannodd ei brofiadau a chyngor ar ganser yn ystod Diwrnod Gwybodaeth yr Haf a gynhaliwyd yn Y Trallwng ar 27 Mehefin 2022.  Gallwch ddarllen stori lawn Tim yn y compendiwm o hanes cleifion. 

Tim tells his story Welshpool.jpg

WYDDOCH CHI DDIM.

Tim Platt

​

Mae bod yn ymwybodol o'ch iechyd cyffredinol a sicrhau eich bod yn cael yr holl brofion ac archwiliadau mewn bywyd sy’n cael eu argymhell ar eich cyferyn hanfodol bwysig i fod ar flaen y gad o ran unrhyw ddatblygiad canser posib.

Os dych chi'n ddigon anlwcus i gael diagnosis, peidiwch ag anobeithio, gan nad ydych chi byth yn gwybod pa driniaeth fydd yn eich aros, sut bydd eich corff yn ymateb i unrhyw sgil effeithiau neu ba lawdriniaethau y byddwch chi'n eu cael. Yn aml iawn mae'r cyfan yn llawer haws ei reoli nag y mae'r diagnosis yn ei awgrymu.

Dydych chi ddim yn gwybod pa effaith ariannol fydd gan y diagnosis ar eich bywyd, na'r hyn allai ddod yn sgil dod yn anabl a'r byd o fudd-daliadau cymdeithasol yn sgil hynny.

Ac yn bwysicaf oll wyddoch chi ddim am ba hyd y bydd y broses i gyd yn digwydd.

​

MEDDYGOL

Bydd y Meddygon bob amser yn dweud wrthych eu bod yn gwybod  llawer iawn am eich cyflwr, ond yr hyn nad wyddant yw sut y byddwch yn ymateb i'r triniaethau a argymhellir.

Mae pob claf yn unigolyn, o ran corff, cryfderau a gwendidau.

Mae fy Meddygon i a'r staff meddygol gwych rwy’n dod ar eu traws, bob amser yn gefnogol iawn.

Gwrandewch a dysgwch ganddyn nhw, ond hefyd gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n gwrando ac yn dysgu gennych chi.

Chi sy'n gyfrifol am eich triniaeth, mae gennych chi bob amser y dewis i wneud neu i BEIDIO â gwneud rhywbeth.

Am ryw reswm rhyfedd, mae diagnosis o ganser (yn aml yn fwy nag afiechydon eraill) yn ysgogi ymdeimlad o ddirgelwch sy'n agor drysau ac yn cywain cydymdeimlad garnwyr sy'n gallu gwneud bywyd ychydig yn haws.

​

PERTHNASAU A FFRINDIAU

Mae emosiynau'n gryf yn ar ddechrau diagnosis o ganser, byddwch chi ac eraill o’ch cwmpas yn eich trin eich gilydd yn wahanol. Ceisiwch beidio â bod yn gaeedig, ac edrychwch ar hyn fel cyfle i ddod i ddeall eich  gilydd hyd yn oed yn well.

Bydd perthnasau, yn wyliadwrus o unrhyw gysylltiadau genetig sydd angen eu harchwilio a'u profi ac yn aml, mae cyfiawnhad dros fod yn wyliadwrus o hyn.

Crewch atgofion, teithiwch os gallwch, ymwelwch â ffrindiau a pherthnasau nad ydych efallai wedi’u gweld am gyfnod;  a chaniatáu iddyn nhw helpu a mynegi eu hemosiynau. Fe gewch fyddwch yn darganfod pwy yw eich gwir ffrindiau.

 

CYNLLUNIAU AC UCHELGEISIAU

Ni  all unrhyw un ragweld y dyfodol, felly caniatewch amser i chi eich hun deithio a chael profiadau diwylliannol  os gallwch, er mwyn i ddioddef y triniaethau deimlo’n fwy gwerth chweil. Hyd yn oed os yw hyn yn golygu cymryd seibiant o'r driniaeth, fe welwch fod y cydbwysedd a ddaw i fywyd yn sgil hyn yr un mor werthfawr.

Peidiwch â chael eich temtio i'w alw'n “rhestr bwced”, oherwydd fe ddylech chi mewn gwirionedd gytuno i fynd i wneud pethau y mae'r person neu'r grŵp rydych chi'n mynd gyda nhw yn dymuno’u gwneud hefyd.  Nid yw’r cyfan amdanoch chi, ond am brofiad rydych yn ei rannu ag eraill.

Buan y darganfyddais fod pob eiliad yn dod yn fwy diddorol, natur a’r byd o'ch cwmpas yn fwy cyfareddol a gwerthfawr.

 

I GLOI

Ceisiwch fyw eich bywyd orau y gallwch chi, oherwydd wyddoch chi ddim.

Mynnwch gael prawf oherwydd efallai bod canser arnoch chi, ond hefyd efallai na fydd!

bottom of page