top of page

Cefndir

Children clapping.jpg
Wheelchair.jpg
comm connector.jpg

Fis Ebrill 2016, fe gyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 ofynion newydd ar gynghorau lleol a byrddau iechyd i weithio mewn partneriaeth. O ganlyniad i hyn, sefydlwyd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (RPB) ar draws Cymru i ddiwallu anghenion iechyd a gofal pobl. Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys felly yn gorff cyfreithiol statudol a’i rôl yw darganfod meysydd ar gyfer gwella o ran gwasanaethau gofal a chymorth ym Mhowys. Mae’r Bwrdd hefyd dan ymrwymiad cyfreithiol i ddarganfod cyfleoedd i Ofal Cymdeithasol ac Iechyd integreiddio â’i gilydd.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 – Egwyddorion Craidd

  • Rhoi unigolion a’u hanghenion wrth wraidd gofal, a rhoi llais sylweddol iddynt o ran cyflawni a rheoli’r deilliannau sy’n helpu iddynt gael llesiant

  • Annog unigolion i hunan-gefnogi lle bynnag y bo modd, gyda’r gefnogaeth gan y cyngor lleol yn canolbwyntio ar y mwyaf bregus

  • Datblygu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy trwy ddull cydgynhyrchiol sy’n arwain at gefnogi mwy o bobl heb fod angen asesiad a chymorth gofal cymdeithasol wedi’i reoli

  • Sicrhau gofal a chymorth mwy effeithiol trwy gydweithredu a gweithio mewn partneriaeth

 

Gofynion deddfwriaethol

  • Sefydlwyd RPB ar ôl troed Byrddau Iechyd Lleol dan Ran 9 y Ddeddf

  • Mae aelodaeth o’r Bwrdd wedi’i ragnodi, ac mae'n rhaid iddi gynnwys (o leiaf): Aelodau Gweithredol y cyngor lleol, cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, aelodau annibynnol ac uwch weithredwyr y Bwrdd Iechyd, cynrychiolwyr cenedlaethol a lleol y trydydd sector, defnyddwyr a gofalwyr a chynrychiolwyr annibynnol y darparwyr

  • Gellir cyfethol aelodau ychwanegol yn ôl yr angen

 

Rhaid i RPB:

  • Sicrhau bod partneriaid yn gweithio’n effeithio i wella canlyniadau i bobl eu hardal

  • Sicrhau bod y cyrff partneriaeth yn darparu digon o adnoddau ar gyfer y trefniadau partneriaeth

  • Pennu lle fydd gwasanaethau integredig, gofal a chymorth fwyaf buddiol i bobl y rhanbarth, gan ddefnyddio barn defnyddwyr y gwasanaeth

  • Cynnal asesiadau o anghenion y boblogaeth

  • Sicrhau bod partneriaid yn blaenoriaethu integreiddio yn y meysydd canlynol:

    • Pobl hyn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia

    • Pobl ag anableddau dysgu

    • Gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc

    • Gwasanaethau integredig cymorth teulu

    • Plant ag anghenion cymhleth yn sgil anabledd neu salwch

 

Cynlluniau Ardal

Mae’r ddeddfwriaeth yn gofyn i’r RPB gynhyrchu Cynllun Ardal i amlinellu sut y gellid cyflenwi’r gwasanaethau mewn modd integredig yn y dyfodol, mewn ymateb i’r Asesiad o’r Boblogaeth. Mae hefyd yn amlinellu bwriadau cyflenwi ar gyfer y Strategaeth Iechyd a Gofal. Mae’r Cynllun Ardal yn amlinellu:

  • Y gweithredoedd y bydd y partneriaid yn eu cyflawni o ran meysydd integreiddio sy’n flaenoriaeth

  • Manylion arian a rennir

  • Sut y bydd gwasanaethau’n cael eu caffael neu’u trefnu i’w cyflenwi, gan gynnwys trwy fodelau cyflenwi amgen

  • Manylion gwasanaethau ataliol

  • Gweithredu o ran darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth

  • Gweithredu y mae ei angen o ran cyflenwi gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg

  • Cyfraniadau gofal a chymorth i gynlluniau llesiant

bottom of page