top of page

COVID-19

Wrth i ni barhau i ymateb i'r sefyllfa sy'n newid yn barhaus, rydym yn fwyfwy ymwybodol o'r angen i gynnig help a gofal i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae'r ymdrechion gwirfoddoli ar draws cymunedau Powys mewn ymateb i COVID19 wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig, ac rydyn ni yma i helpu.

Mae PAVO gyda chefnogaeth Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a phartneriaid eraill, wedi sefydlu Tîm Ymateb Brys y Sector Cymunedol (C-SERT) i gydlynu a chefnogi'r ymateb brys. Trwy C-SERT, rydym yn cefnogi gwasanaethau iechyd a gofal allweddol y mae'r firws yn effeithio arnynt fel gofal cartref, preswyl a nyrsio.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am wirfoddoli a’r ymateb i COVID-19, ewch i wefan PAVO ar www.pavo.org.uk/home.html. Os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn, tanysgrifiwch i Fwletin wythnosol Sector Gwirfoddol COVID-19 - bit.ly/2UR6Rj2

Dogfennau allweddol i gwirfoddolwyr

bottom of page