top of page
live well welsh.png

Wrth i anghenion ein poblogaeth newid, mae mwy o bobl yn byw gyda chanser, iechyd meddwl, clefyd anadlol, clefyd cylchrediad y gwaed ac anhwylderau cyhyrysgerbydol. Mae angen sicrhau bod pobl yn gallu ‘Byw’n Dda’ trwy fod yn iach ac yn egnïol a thrwy gael gafael ar gymorth a chefnogaeth gynnar. Gall byw'n dda yn ystod oedolaeth greu buddion enfawr yn henaint.

 

Mae Partneriaeth Byw'n Dda (Anabledd) yr RPB yn gyfrifol am fwrw ymlaen â gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gryfhau a thrawsnewid gwasanaethau i bobl ag anableddau ym Mhowys fel y nodir yn Strategaeth Iechyd a Gofal Powys. Dyma rai o'i brosiectau:

Cymorth Cartref

Wheelchair.jpg

Mae Cymorth yn y Cartref yn wasanaeth cymorth ac atal cynnar i ddinasyddion (50+) sy'n galluogi ac yn darparu'r gefnogaeth a'r cymorth ymarferol y gallai fod eu hangen ar unigolyn yn ei fywyd o ddydd i ddydd i fyw gartref yn hyderus, mewn iechyd da, yn annibynnol ac yn ddiogel.


Mae a wnelo cymorth yn y cartref â gosod unigolyn mewn sefyllfa sy’n golygu ei fod yn gallu rheoli ei ofal a'i gymorth, fel y gall fyw gartref mor annibynnol â phosibl. Cliciwch yma i ddysgu mwy amdano.

Cysylltwyr Cymunedol

comm connector.jpg

Mae'r prosiect hwn yn wasanaeth allweddol i ddarparu Model Gofal y Strategaeth Iechyd a Gofal. Mae’n helpu cleientiaid ag anghenion gofal neu gefnogaeth i gyflawni ‘yr hyn sy’n bwysig’ iddynt trwy gyrchu gwasanaethau’r trydydd sector a gweithgareddau cymunedol. Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg gan PAVO ac mae’n llwyddo i ddarparu ‘yr hyn sy’n bwysig’ i gleientiaid sydd angen cefnogaeth, ond hefyd i’r gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol sy’n cyfeirio cleientiaid at y gwasanaeth. Cliciwch yma i ddysgu mwy amdano.

Dychwelyd i'r Cartref a Model Dilyniant

hands.jpg

Mae'r gwasanaeth newydd hwn wedi galluogi nifer o unigolion a oedd yn arfer gorfod byw y tu allan i'r sir oherwydd eu hanghenion cymorth, i ddychwelyd adref i Powys. Mae'r bobl hyn bellach yn byw mewn amgylchedd cymunedol lleol, yn agosach at eu teuluoedd a'u rhwydweithiau cymdeithasol.

bottom of page