top of page
School of Research, Development and Innovation logo

Ysgol Ymchwil, Datblygu ac
Arloesi

Y nod yw rhoi’r sgiliau a’r hyder i weithlu iechyd a gofal cymdeithasol y sir i dynnu sylw at unrhyw beth sydd angen gwella o fewn eu meysydd, ac i wneud y gwelliannau hynny, gan fesur a dangos yr effaith a gânt ar brofiadau cleifion.

Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol (CARh)

Rôl y Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol (CARh) yw gwella ansawdd a gwerth y gweithgaredd ymchwil, arloesi a gwella yn ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (RPB), trwy ddysgu a rhannu syniadau.

​

​Er i COVID-19 rwystro ein gallu i feddwl yn strategol, mae ein hymateb i'r pandemig wedi dangos ein gallu i feddwl ar ein traed ac arloesi yn y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau i sicrhau parhad gwasanaeth a darparu canlyniadau yn y tymor byr.

​

Mae'n rhaid i ni nawr harneisio'r awydd am arloesi er mwyn trawsnewid darparu gwasanaethau yn y tymor hwy, gan weithio ar y cyd i sicrhau y gall ein gwasanaethau barhau i weithredu a diwallu anghenion a chanlyniadau gofynnol pobl Powys.

​

​

Gwneud i bob cyswllt gfrif

Making every contact count logo

Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (GBCG) yn agwedd ar newid ymddygiad sy'n defnyddio'r miliynau o ryngweithiadau o ddydd i ddydd rhwng sefydliadau ac unigolion â phobl eraill i'w helpu i wneud newidiadau cadarnhaol i'w hiechyd a lles corfforol a meddyliol.

​

Mae GBCG yn galluogi'r gwaith oportiwnistaidd o gyflwyno gwybodaeth gyson a chryno am ffyrdd iachach o fyw ac yn galluogi unigolion i gael sgwrs am eu hiechyd mewn sefydliadau a phoblogaethau yn unol â maint y broblem. 

​

Dudalen eDdysgu GBCG

Logo Academi Iechyd, Gofal a Gofal Cymdeithasol Powys

Am wybodaeth bellach ar yr academi a’i gwaith, cysylltwch â ni. Ebost: powys.healthcareandsocialcareacademy@wales.nhs.uk

bottom of page